Image
Glan Yr Afon (Riverside Pub)

Glan Yr Afon is a valued pub within the community in Pennal, which came under hardship during the Covid-19 pandemic, it is now community-owned after an initiative to save the pub.

Mae Glan yr Afon yn dafarn werthfawr o fewn cymuned Pennal. Bu trwy gyfnod anodd yn ystod pandemig Covid-19, ond mae bellach yn eiddo i'r gymuned ar ôl menter i achub y dafarn.

Duration
12 years
Cost of capital
7% for the bridging loan and 0% for the blended finance
Turnover
£nil - start up
Amount invested
£251,680
Year of Investment
2022
Product type
Blended – part grant, part loan

Challenge/ Her

The Glan Yr Afon pub in Pennal was listed for sale a year before the Covid-19 pandemic hit but found no buyers. The Pennal community agreed that losing the pub would be a significant loss, so as a collective decided to start an initiative to save the pub by raising funds to purchase it.

Roedd tafarn Glan yr Afon ym Mhennal ar werth flwyddyn cyn i bandemig Covid-19 daro, ond ni allwyd dod o hyd i brynwr. Cytunodd cymuned Pennal y byddai colli’r dafarn yn golled fawr, felly gwnaethant benderfynu dod ynghyd i ddechrau menter i achub y dafarn drwy godi arian i’w phrynu.

Solution/ Ateb

The local community endeavoured to raise £250,000 and find an investor to match the funds raised by the community. Social investment enabled Glan yr Afon to be saved as it was bought through community shares raised by the community and those funds matched by Cwmpas.

Ceisiodd  y gymuned leol godi £250,000 a dod o hyd i fuddsoddwr i roi swm cyfwerth â’r arian a godwyd gan y gymuned. Gwnaeth buddsoddiad cymdeithasol alluogi Glan yr Afon i gael ei hachub, oherwydd cafodd ei phrynu drwy gyfranddaliadau cymunedol a godwyd gan y gymuned, a rhoddodd Cwmpas gyllid cyfatebol.

Revenue Model/ Model Refeniw

The pub generates revenue through trading, serving refreshing beverages at the pub and offering a range of freshly made delicious dishes. 

Mae’r dafarn yn cynhyrchu incwm drwy fasnachu, gweini diodydd adfywiol yn y dafarn a chynnig amrywiaeth o brydau blasus sy’n cael eu paratoi’n ffres.

Impact/ Effaith

In addition to ‘saving’ the community pub, social investment also allowed the community to develop four rooms to rent out and a space for teaching Welsh. The pub acts as a crucial social space for the local community.

Yn ogystal ag ‘achub’ tafarn y gymuned, fe wnaeth buddsoddiad cymdeithasol hefyd ganiatáu i’r gymuned ddatblygu pedair ystafell i’w rhentu a gofod ar gyfer addysgu’r Gymraeg. Mae’r dafarn yn ofod cymdeithasol hanfodol i’r gymuned leol.

Quotes

“Fair play to WCVA, they were extremely helpful.”


 Meirion Roberts, Chair, Glan Yr Afon

"Chwarae teg i CGGC, roedden nhw’n hynod o gymwynasgar."


Meirion Roberts, Cadeirydd, Glan Yr Afon
 

“This was another in a series of successful investments into community pubs that we have made across Wales. There's no lack of evidence to prove how vital they are in helping keep villages alive and it's great to see them grow into real hubs of village life. It was doubly rewarding for us to support Glan Yr Afon in such an historic place in Wales so they can continue being part of telling that story.” 

Alun Jones, Head of Social Investment, WCVA

"Roedd hwn yn un arall mewn cyfres o fuddsoddiadau llwyddiannus mewn tafarndai cymunedol rydyn ni wedi’i wneud ar hyd a lled Cymru. Mae llwyth o dystiolaeth i brofi pa mor hanfodol ydynt i helpu i gadw pentrefi yn fyw, ac mae'n wych eu gweld nhw'n tyfu i fod yn ganolfannau go iawn o fywyd pentref. Cawsom ddwbl y mwynhad o gefnogi Glan Yr Afon mewn lle mor hanesyddol yng Nghymru fel y gallant barhau i fod yn rhan o’r stori honno."

Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol, CGGC